YM MHARC ISCOED

Bwyd a diod

Rydym yn credu’n angerddol mewn paratoi bwyd da yma ym Mharc Iscoed
a byddwn yn gwneud ein gorau i weini prydau i chi a’ch gwesteion
fydd yn aros yn eich cof am gyfnod maith.



Mae yma fwydlen ddiddorol ar gyfer bwyd nos hefyd, gan gynnwys pizza wedi’i baratoi mewn llosgydd pren yn ein fan Citroën Math-H gwreiddiol sydd wedi’i atgyweirio â chryn lafur cariad.

Rydym ni’n gobeithio y byddwch yn gwerthfawrogi ein bwydlenni ond os hoffech chi gael rhywbeth cwbl wahanol neu am newid ambell i gynhwysyn, gadewch i ni wybod - eich diwrnod chi fydd hi a chi sy’n bwysig. Ein nod fydd sicrhau ein bod yn paratoi pa bynnag wledd fydd wrth eich bodd.

Mae ein prif gogydd dawnus a’i gydweithwyr brwdfrydig wedi hir ystyried, ac wedi rhoi gofal arbennig i’w bwydlenni. Maent wedi’u seilio ar gynnyrch tymhorol lleol fel y bydd arlwy blasus o gynnyrch ffres ar gael i chi pob tro.

Cewch yma amrywiaeth o fwydydd, o ganapés a phrydau tri chwrs, at brydau i’w rhannu, sawl te bach prynhawn gogoneddus a barbeciws. Os mai cinio tri chwrs fydd at eich dant neu rywbeth llai ffurfiol, byddwn yn cydweithio i greu beth bynnag sydd orau gennych chi.

Bydd bwydlenni tymhorol amheuthun sy’n defnyddio’r cynnyrch lleol gorau oll yma i chi
- cewch eich diffetha’n lân!

Beth am Drafod y Bwyd?

Dyma’n Cogyddion Ni

Ym Mharc Iscoed mae gennym dîm o gogyddion hollol ddawnus dan arweiniad y Prif Gogydd Jason Hodnett. Daeth Jason atom ni yn Iscoed ym mis Mehefin 2021 a chyn hynny bu’n cystadlu yn Professional MasterChef ac yn cynrychioli’r canolbarth yn The Great British Menu. Mae’n gogydd penigamp ac yn llawn angerdd wrth weini’r prydau gorau oll. Mae wedi creu tîm rhagorol yn y gegin a thrwy hynny godi safon bwyd Iscoed i’r entrychion. Mae’n berson hawdd siarad ag ef a bydd yn gwbl fodlon trafod ac arbrofi ag unrhyw syniad fydd gennych chi am eich bwydlen.

Rydym yn gweini Cinio Sul yn gyson yn y Cerbyty Dyma achlysur sy’n crisialu popeth sy’n werth chweil am unrhyw benwythnos - bwyd blasus yng nghwmni eich cyfeillion gorau. Mae’n achlysur poblogaidd gyda’r trigolion lleol yn ogystal â chyplau
priod Iscoed y gorffennol a rhai’r dyfodol, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Dim ond un eisteddiad sydd, felly gallwch ymlacio dros eich pryd ac yna fwynhau tro bach hamddenol trwy’r gerddi a’r parc. Edrychwch ar ein dyddiadur am brynhawn cyfleus a chodwch docyn ar gyfer cinio Sul penigamp.

Cinio Sul

Gweinir y te bach fel arfer yn y plasty, yn y Parlwr, y Parlwr Bach a’r Llyfrgell. Katie, ein Teisenwraig ddawnus, sy’n trefnu’r te. Cewch amrywiaeth godidog o frechdanau a chacennau, a phob math o ddanteithion bendigedig yn ogystal â dewis o sawl math o de a choffi. Ein cyngor ni i chi fydd mwynhau o leiaf un gwydriad o Siampaen Iscoed gyda’ch te - mae’n hollol hyfryd!

Te Bach Prynhawn

Cynhelir amrywiaeth o gymdeithasau swpera a nosweithiau ciniawa yma. Yn rhan o bob cyfarfod swpera byddwn yn trefnu siaradwr gwadd i’n hannerch. Wedi i chi gyrraedd a mwynhau diod fach neu ddwy bydd y sgwrs yn cael ei thraddodi yn y llyfrgell. Gweinir y swper wedi hynny yn y Cerbyty. Pan fo’n addas bydd ein cogydd yn defnyddio testun y sgwrs yn ysbrydoliaeth i’r fwydlen. Gwiriwch ein dyddiadur i weld dyddiad y cyfarfod nesaf a chodi tocyn.

Cymdeithasau Swpera

Mae ffwrn llosgydd coed wedi’i osod yn ein fan Citroën Math-H gwreiddiol a gellir dewis pizza ag amrywiaeth o gyflasion. Er nad yw’r fan yn gerbyd chwim, gall symud yn weddol araf pan fo angen hynny. O’r herwydd gallwn weini pizza yn y plasty, y Cerbyty neu fannau eraill o amgylch yr ardd. Mae pob pizza yn arbennig ac mae arogl y mwg a’r coginio yng ngwres y fflamau yn denu tyrfa ato pob tro.


Fan y Pizza

Mae yma siampaen, gwinoedd, coctels a phob math o ddiodydd hyfryd eraill. Chwiliwch y rhestr Diodydd am ein gwinoedd, coctels a’n diodydd bar.

Diodydd

– EMILY ALICE, 2018 –

‘Roedd y bwyd yn ben llanw ein dathlu; roedd y safon cystal ag unrhyw fwyty crand er bod angen gweini bwyd i dros 90 ohonom.’

Ar gyfer pawb fu’n ddigon ffodus i flasu pizza llosgydd coed Philomena - dyma’ch cyfle!

Rysáit ar gyfer Pizza Llosgydd Coed

Dyma’n rysáit ni ar gyfer Arancini Madarch.

Canapé Arancini Madarch

Rhowch gynnig ar rai o’n hoff ryseitiau gan ein Cogyddion hynod ddawnus.

O Gegin Iscoed

Blog y Cogydd